Loading Events

Make Music Day Meet-Up – Wales / Cyfarfod y Diwrnod Cerddora – Cymru

04 March 2021

Dathliad o gerddoriaeth yw’r Diwrnod Cerddora a gynhelir 21 Mehefin bob blwyddyn a dyma ŵyl gerdd DIY fwyaf y byd. Bob blwyddyn, bydd dros 120 o wledydd yn cymryd rhan ac rydyn ni’n chwilio am bobl, grwpiau a sefydliadau yng Nghymru i ymuno â ni ar gyfer y cyfarfod yma er mwyn canfod sut gallwch ddod â’r parti i’ch cymunedau chi.

Yn y cyfarfod byddwch yn dysgu beth yw’r Diwrnod Cerddora a’r gwahanol ffyrdd y gallwch gymryd rhan. Byddwch yn clywed gan ein cyd-drefnwyr – Tŷ Cerdd – am eu gweithgareddau cerddorol hwythau. Hefyd ceir y cyfle i gwrdd â phobl eraill sy’n ymwneud â cherddora yng Nghymru ac efallai gwneud ychydig o gysylltiadau newydd.

Bydd tîm y Diwrnod Cerddora yno hefyd i rannu manylion â chi am sesiynau hyfforddi sydd ar y gweill, dulliau a gwybodaeth gyffredinol fel y gallwch drefnu’ch gweithgareddau cerddorol eich hun. Ein gobaith yw y bydd y cyfarfod hwn yn tanio tipyn o syniadau gwych am ffyrdd o sicrhau mai Diwrnod Cerddora 2021 yw’r gorau eto a byddwch yn gadael gyda chynlluniau o ran sut gallwch lenwi cartrefi, strydoedd, y We a chymunedau â cherddoriaeth ar 21 Mehefin.

Gwelwn ni chi yno!

Share This Event

Virtual Event
  • This event has passed.

Details

Date:
4th March
Time:
4:30 pm - 6:00 pm
Event Categories:
,
Website:
https://www.eventbrite.co.uk/e/make-music-day-meet-up-wales-tickets-133256695363
RSVP

Leave a Comment